תמונות בעמוד
PDF
ePub

roddodd Efe i'n diwallu ni!--O! ymgrymmwn, ïe, yn ddïocdi, yn awr ger ei fron Ef: a bydded i ni, gyd â dagrau dwfn-dristwch calonnau drylliog cystuddiedig, gyfaddef ein pechodau, a'u gadael; fel y caffom drugaredd.-Y mae angeu, cennad y farn, yn dra mynych, heb ei ddisgwyl, yn dyfod ar warthaf dynion, gan roddi ei law anhyfryd arnynt, a'u selio hwy i fynu hŷd ddydd yr ad-daledigaeth.-Caniattâ, O gyfiawn Farnwr, o'th drugaredd, allu o honom, trwy ryglyddon dy farwolaeth a'th adgyfodiad, sefyll ar dy Ddeheu-law, a chyfodi gyd â Thydi i fywyd tragywyddol y diwrnod hwnnw, yn yr hwn y berni y byd mewn Cyfiawnder. Amen.

PREGETH V.

ADGYFODIAD CRIST BUDDUGOLIAETH CRISTIANOGION

I COR. XV. 55.

O angeu, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le maę dy fuddugoliaeth?

O death, where is thy sting? O grave, where is thy victory ?

[ocr errors]

MOR ofnadwy ydyw rhagflaenorion angeu!

mor arswydus ydyw grâddau ei ddyfodiad, ac mor ddychrynllyd yw 'r rhuthriadau, a wna efe wrth ddinystrio ein heinioes, a destrywio ein dedwyddwch daearol! O'i flaen ef, pa lïaws anhyfryd o glefydau, a ddeuant! pa wendidau, pa nychdod, pa ofidiau, poenus, a ddangosant, ei fod yn dyfod! A phan ddelo, pa ddagrau, pa wasgu dwylo, pa groch-waeddiadau chwerwon, a fydd! Mor nifeiriol, mor amrywiol, mor dra llymion ydyw 'r piccellau, â pha rai y dinystria

efe ein Cyrph ni! A oes un rhyw alwedigaeth, un rhyw gystudd, un rhyw fwyniant, un rhyw ymfoddlonrwydd, a'r na ddichon fod yn angeu i ddyn! Oh y crynu y mae pob peth byw, ger ei fron ef! Pan ddelo, mor fuan y diflanna pob blodeüyn yn y byd hwn! Wrth ei alwad dychrynllyd, oh y distewi y mae pob adsain llawenydd a gorfoledd Yn y lle 'r ymddangoso efe, pa ddistawrwydd dirfawr ac arswydus, pa brudd-der, ac ofnau athrist, a deyrnasant! Mor irad ydyw wynebpryd y sawl a orwedd ar wely-angeu, yn las-wyn ac yn llwydaidd, yn egwan ac yn ddigalon; yn ymbil yn ofer am help, am gymmorth, yn ymollwng bob munud fwy-fwy dan ei loes angeuol; yn myned yn fwy-fwy annheimladwy o ddiddanwch; yn fwy-fwy gofidus, o hŷd, gan boenau; yn petruso rhwng bywyd a marwolaeth, rhwng gobaith ac ofn; yn edrych yn graff ac yn ddyfal am oleuni 'r haul, ac yn crynu wrth y disgwyliad, fod marwol ddyrnod angeu yn neshâu!

Mor oll-gyffredinol ydyw ei lywodraeth ef, ac mor. ddirfawr yw 'r difrodiadau a wna, yn y byd hwn! Ni ddichon un rhyw fath o greaduriaid byw, ddïangc rhag ei ddyrnod; nac un rhyw rai ymddiogelu rhag rhuthriadau marwolaeth a llygredigaeth. Megis y diflanna 'r blodeuyn, megis y gwywa 'r ddeilen, megis y syrth y pren,

ac y derfydd; felly dyn, er ei fod yn llywodraethwr ar y creaduriaid; etto a syrth dan allu anwrthwynebol angeu. Mor liosog ydyw 'r

ysglyfaethau, mor dra helaeth ac ehang yw 'r difrod, a wna 'r dinystrydd creulon hwn, yn dra mynych ac yn ddisymmwth ar ddynion, gan eu prysuro a'u bwrw hwy oll i'r bedd, heb dderbyn wyneb grâdd nac oedran, na theilyngdod ychwaith. Yma ni wna efe arbed mo'r cristianogion duwiol ddim mwy na'r pechaduriaid annuwiol. Nid oes gan y rhai trugarog, a'r ffyddlon, a'r haelionus, ddim awdurdod ar y concwerwr dinystriol, neu 'r gelyn didosturi hwn. Er mai prin y gwelodd y babanod oleuni 'r haul; etto yma y gorweddant yn agos at yr henaint pen-wynnion, y rhai nis gallasent oddef ei belydr yn hwy. Yna y gorwedd lludw 'r ieuaingc gwridog, yn gyd-gymmysgedig â lludw'r rhai mwy oedranus-lludw y mawrion a'r cedyrn â lludw eu his-raddolion gwaelaf. Ymay gorwedd

y rhai iachus a'r llafurus, y rhai a wynebasent bob trafferth, a wrthgefnasent bob caledi, ac a safasent yn erbyn pob anffawd; ac yna y gorwedd y milwyr, y rhai, wrth ymlâdd, a laddasent eu cyd-filwyr. Pawb oll, ïe, pawb oll a'r sydd o'r ddaear, rhaid iddynt hwy ddychwelyd i'r ddaear. Y neb a rodia ar feddrodau 'r meirw, hwnnw, bob cam a roddo, a sathra ar fêddau y rhai a fuont gynt yn fyw-ar ludw marw y rhai gynt

a fuont yn perchen bywyd-ar wisgoedd cnawdol ei gyd-greaduriaid.

Os ydyw buddugoliaeth angeu yn ddychrynadwy, y mae ei ddyfodiad yn gyffredinol, mor annisgwyliedig, ag ydyw ei ruthriad yn anwrthwynebol. Yn y fynwent yna, y mae bêddau o bob math: ar fêdd-feini y meirw yna, y gwelwch goffadwriaeth am y plant gobeithlon, am yr ieuaingc gwridog, ac am yr henaint pen-wynnion, a gyd-gymmysgwyd â'u gilydd, yn yr un trig-fannau. Y mae efe yn rhuthro ar rai pan fyddont yn dilyn pleserau aflan; ar rai eraill, pan fyddont yn gorphwys yn ddifraw hanner nos y mae efe yn cipio rhai o'r dyrfa hoenus, ac eraill o'r llïaws gwylofus. Rhag-ganfod, yn hîr, nid ydys mo'i ddyfodiad, ond y mae efe yn fynych yn rhoddi 'r dyrnod marwol, cyn i sŵn ei draed ddangos, ei fod yn agoshâu. Herod a darawyd, pan yr oedd y bobl yn rhoddi clôd iddo: Jezebel a daflwyd i lawr trwy flenestr y lle, a ddarparasai hi i ddirmygu ac i wawdio Jehu: Piccell angeu a darawodd Belsassar, pan oedd yn cyfeddach ynghanol ei dywysogion: Holophernes a syrthiodd, pan oedd ei filwyr o'i amgylch, ac wedi ei goroni â buddugoliaeth ac â chlôd. Mor ddilês ydyw 'r rhybuddion prydlonach a roddir i'r ieuaingc, iymogelyd rhagddo ef Mor ofer ydyw ymgeisiadau y rhai cyfrwys,

« הקודםהמשך »