תמונות בעמוד
PDF
ePub

"maint a'i wneuthur o honoch i un o'r rhai hyn "fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.”—Os buoch chwi, gan hynny, yn llygaid i'r deillion, ac yn draed i'r cloffion: os buoch yn ymborth i'r newynog, ac yn ddillad i'r noeth: os cynhaliasoch y cystuddiedig; os diddanasoch y trallodedig; os hyfforddiasoch 'r anwybodus; ac os dygasoch y cyfeiliornus yn ôl i rodio ffordd sancteiddrwydd; os gwnaethoch, trwy eich haelioni. dihunanol, neu eich llafur poenus, trwy eich Annogaeth ddyfal, neu eich siampl duwiol, daenu ar lêd y werthfawr wybodaeth am wirionedd Duw ymhlith dynion.—Os buoch ac os gwnaethoch felly, y mae gennych ffrwythau coffäol gwynfydedig o'ch zêl a'ch cariad perffaith: Eich gweddiau chwi a'ch elusenau a "ddyrchafasant

yn goffadwriaeth ger bron Duw;" a hwy a fyddant yn dystion cywir i ni y dydd hwnnw, yn yr hwn y barna Efe y byd mewn Cyfiawn"der."

Rieni! a wnaethoch chwi hyfforddi eich plant ym mhen y ffordd i wneuthur daioni ac ofni Duw? A wnaethoch chwi yn ofalus fyfyrio wneuthur y llês mwyaf, sef, llês parhâus iddynt hwy? A wnaeth eich cynghorion a'ch buchedd, eich annogiadau a'ch rhybuddion, eich dagrau a'ch gweddiau, mewn iawn bryd argraffu ar eu calonnau ymadroddion duwiol:-eu dïogelu rhag

cyfeiliornadau peryglus;-a'u tywys i rodio 'r ffordd i'r bywyd tragywyddol!--Os gwnaethant felly, Tystion gwerthfawr, a ffrwythau hyfryd fyddant! Hwy a'n canlynant, ac a ddangosant ein bod yn wynfydedig!

A oes barn ar ddyfod? Y mae'r grâdd o ddychryn a deimlwch yn dangos, pa mor ansier yw 'r sylfaen, yr adeiladwyd eich gobaith am iachawdriaeth arni. Cydwybod, yr hon, er ei bod fel cyfeilles ffyddlon, bob amser, yn rhoddi mwy-fwy o sicrwydd i'r duwiol daionus, y caiff efe drugaredd ger bron ei Farnwr; ettò, i'r euog, y mae hi fel ellylles yn rhag-fynegi ac yn dangos, bob amser, frawd-le 'r farn ddiweddaf, Er dïange ohonoch rhag dialeddol allu cyfreithiau dynion; er cuddio o honoch y bwriadau cyfrwysaf dan dra phrydweddol agwedd Uniondeb; etto ni wna hynny ond gwneuthur cywilydd datguddiad y dydd hwnnw yn fwy-fwy gwaradwyddus. Brysiwch i rag-flaenu 'r fath ddrwgddiwedd truenus. Ymsyrthiwch yn dra gostyng) edig, gyd â thristwch calonnau drylliog cystudd iedig, i lawr, wrth draed Barnwr y byd. Ymdrechwch, trwy effeithiau ffydd a gweithreds oedd cariad perffaith, gyflawni ammodau frise bywyd; a thrwy wir edifeirwch a diffuant dröed+02 igaeth, i fod yn gymmwys i gael trugaredd Ymrowch holl ddyddiau eich bywyd ymbarottci,

i

[ocr errors]

erbyn y delo 'r tragywyddoldeb hwnnw, yr hw sydd o'ch blaen, a'r hwn y gellwch cyn gynted ac mor' ddisymmwth gael eich prysuro iddo.

A des barn ar ddyfod i bawb yn ddi-dderbyn wyneb, ac heb esgusodi neb? Bydded, gan hynny i'r cyfoethogion a chedyrn y ddaear ymostwng o'u huchelfëydd dyrchafedig, ac ymsyrthio i lawr i'r llwch, ger ei fron Ef, yr hwn ydyw anorchfygedig ac anorchfygadwy Arglwydd y Nefoedd a'r ddaear; bydded iddynt gyfaddef eu gwendidau, a chydnabod, eu bod yn pwyso arno Ef; ac na fydded iddynt dynnu eu golygon oddi ar yr olygfa arswydus honno, pan y gwna eu mawredd presennol, eu cyfiawnhâd rhagllaw yn waith mwy gorchestol.

A fernir yr holl fyd mewn cyfiawnder? Bydded i ni, gan hynny, wisgo "holl arfogaeth Duw," erbyn y delo 'r digwyddiad anocheladwy hwnnw; a byddwn yn ddïoed yn barod, fel y byddo ei ddychrynfâu yn llai, ac y caffom y fuddugoliaeth arno. Dallineb gwirfoddol ydyw, ceisio ó honom ffoi rhag yr hyn yn anocheladwy a'n goddiwedda. Os gwnawn yn wastadol, tra parhao damweiniol daith ein heinioes, â'n holl egni, ymbarottoi erbyn y delo y dydd mawr hwnnw, y ffyrdd hynny fyddant ffyrdd hyfrydwch, a'r holl lwybrau hynny fyddant heddwch.Ymfoddlonrwydd a rodia wrth ein hystlys; hyf

rydwch a wna 'r rhag-olygiad yn fwy-fwy amlwg a gobaith a rag-genfydd ddiwedd ein taith. Ond os esgeuluswn ymbarottoi felly, nyni a rodiwn mewn dychryndod parhâus, gan gael ein gyrru yn anocheladwy o hŷd ym mlaen; ond gan ofni dyfod i'r man, lle y mae cymmylau a thywyllwch yn cartrefu, lle y mae nos yn oes oesoedd, a thrueni byth bythoedd, yn teyrnasu. Y boddlonrwydd a rydd duwioldeb, bob amser, a ddwg hyfrydwch a hyder: ond y boddlonrwydd a rydd annuwioldeb a esgor ar ofid, a chan ddarfod a lwyr-dderfydd mewn anobaith. Fel Fel y caffom nerth i fyfyrio ar dragywyddoldeb heb gynhyrfiadau poenus, rhaid i ni yn wastad gadw ein golwg ar y rhag-olygiad, ac ar y canlyniadau o hono, nidi ofidio ein hunain ag ofnau ofer-goelus, ond i wneuthur y fath bethau pwysfawr yn rhëol ac yn ddiben i'n holl weithredoedd.--Na ymddiriedwch mewn gwahaniaethau allanol, nac ychwaith mewn ffydd farw a diffrwyth. Na roddwch mo'ch hyder ar y Zel na'r Crefyddolder a ddangosasoch i unrhyw blaid, nac ar gyflawniadau defodau allanol: ond defnyddiwch yr uchelfreintiau sydd gennych gyd â bwriad cymmwys i'w mawr bwys; a rhoddwch, wrth eich ymddygiad brawf sicr o effeithioldeb y fraint o'ch bod yn gristianogion. Rhaid i uniondeb eich athrawiaeth gyd-fyned gyd ag uniondeb eich buchedd. Nid opiniynau, nid defodau, nid gwahaniaethau allanol, ond bucheddol ymddygiad dynion fydd

eu

yr hyn a fanwl-chwilîr y dydd hwnnw: bwriadau a brofir, eu gweithredoedd a fernir. Ymdrechwch i deimlo grym y Grefydd yr ydych yn ei phroffesu. Bucheddwch fel y mae 'n weddus i'ch galwedigaeth: dilynwch sancteiddrwydd: a chyflawnwch yr ammodau, dan ba rai yr ydys yn cynnyg i chwi Efengyl y Grâs annherfynol.

"Gwiliwch, gan hynny; am na wyddoch pa "awr y daw eich Arglwydd.” Ar hanner nos, pan fyddoch yn fwyaf dïofal ac yn disgwyl leiaf, ysgatfydd, y bydd y waedd. Nid oes gennym ddim sicrwydd, nad ydyw Efe, ïe, yn awr yn parottoi ei orsedd-faingc. A phe gwnai udgorn Duw, y funud hon, alw ar y byw a'r meirw i'r farn-Pa ymbarottoad a wnaethom ni erbyn y digwyddiad mawr hwnnw? Pa le y safem ni? Pa beth fyddai ein barn ni?-Oni wnaethom ei ddïystyra; oni wnaethom ni ommedd ufuddhâu iddo Ef, yr hwn sydd ganddo Allu i'n gwneuthur yn wynfydedig, ac i'n condemnio?—Oni wnaethom ni ei wrthod Ef, yr hwn yn unig ddichon ein gwaredu rhag y llid a fydd? Pa gyndynrwydd! pa wallgof ydyw hynny! Pa fodd y gallwn ni ddywedyd dim drosom ein hunain,

a

herwydd i ni ddibrisio 'r goleuni gogoneddus, a wnaeth Efe, i dywynu arnom ni; a'r camddefnyddiad a wnaethom o'r moddion Gras, a

« הקודםהמשך »