תמונות בעמוד
PDF
ePub

PREGETH I.

AR WEDDI

PSALM. LXV. 2.

Ti, yr hwn a wrandewi Weddi, attat Ti y daw

pob cnawd.

O Thou, who hearest prayer, to Thee shall all flesh come.

MOR garedig ac etto mor arswydus yw'r gwa

hoddiad i ni ddyfod ger bron y Bod hwnnw, yr hwn, er bod ei Hollalluogrwydd yn gorwasgu'r calonnau euog â rhag-ddangosiadau ofnadwy; etto y mae Efe trwy ei drugaredd, yn ysprydoli'r rhai addfwyn a'r gostyngedig â hyder: yr hwn y mae ei berthynas i ni yn dangos tiriondeb, nawdd, rhagluniaeth, a chyfiawnder: yr hwn y mae pob un o'i briodoliaethau yn rhoddi gwahanol sail i ni ddyfod â'n hymbiliau ger ei fron Ef: yr hwn sydd yn bresennol ymhob lle, gan hynny agos yw bob amser attom ni: yr hwn sy 'n gwybod pob peth, gan hynny nid ydyw yn anwybod

us o'r un o'n diffygion: yr hwn y mae ei ddaioni mor ewyllysgar, ag ydyw ei holl-alluogrwydd yn nerthol i roddi pob peth a'r a fyddo er gwir lês a budd i ni: yr hwn y mae ei ffyddlondeb yn sicrhâu i ni, na bydd Efe yn fyr o gyflawni ei holl addewidion graslawn: yr hwn ni wrthyd y pechadur gwir-edifeiriol y sy'n ymostwng ger ei fron Ef. Y mae'r Hwn a wrendy ein gweddiau yn bresennol ymhob lle: y mae Efe bob amser ac ymhob man yn bod: y mae'n cyrhaedd pob ehangder, ac yn cyd-fod gyd â phob creadur: y mae ei Wybodaeth gymmaint a'i Allu, yn annherfynol fel ei barhâd, ac yn anfeidrol fel ei anfeidroldeb Ef. Megis na ddichon dim gweithredoedd na meddyliau fod a'r nad ydyw Efe yn ddiattreg yn eu gweled, yr hwn sydd, fel yr haul, yn treiddio pob naturiaeth, a'r hwn nid oes dim yn guddiedig oddi wrth ei oleuni a'i wrês; felly galluog ydyw Efe, i osod y trefniadau uniawnaf i holl anneirif liaws ei greaduriaid; gan hynny mor gywir wedi eu cyflawni, ac mor ddoeth wedi eu trefnu, yr ymddengys pob rhan o ragfwriad Rhagluniaeth !-Nid ydyw Duw, yr hwn yr ymgrymma pob cnawd ger ei fron wrth ei weddus-addoli, yn llywodraethu'r dalaith yma, neu'r dalaith accw o'r byd yn unig nid ydyw Efe yn cyfanneddu'r mynydd yma.neu'r dyffryn accw yn unig: nid ydyw Efe yn Dduw neullduol i'r ddinas yma, neu yn Olygwr amddiffynol i'r

wlad accw yn unig:-y mae ein Duw ni mor anattaliadwy yn ei Olygiadau, a llewyrch yr haul, yr hwn y mae ei faethol belydr yn bywioccâu 'r holl fyd: nid ydyw ein Duw ni yn gynwysedig o fewn unrhyw deyrnas: ond y mae Efe yn marchogaeth ar amgylcheddau 'r Nefoedd, a'r cymmylau yn gerbyd iddo, a'r gwyntoedd yn gennadau iddo. Teml iddo Ef yw'r holl naturiaeth: cyfannedd-le iddo yw pob ehangder: gwaith ei ddwylaw Ef ydyw pob peth byw: ac y mae ei ofal tadol yn cyrhaedd dros bawb yn ddi-dderbyn wyneb, ac yn ddi-duedd i unrhyw sefyllfa.

Oni wna ymgyfeilliachu trwy weddi â'r fath Fod ardderchog, attal ein harganlyniadau gwallgofus, ffrwyno ein nwydau afrëolus, ac ysprydoli gofal ac ymroad at y pethau a fyddont yn gymmeradwy ger ei fron Ef?-Onid ydyw ein cyfeil`iornadau yn ein hymarweddiad bucheddol yn fwy o achos ein hanystyriaeth, a'n dïofalwch am y buddiannau pwysfawroccaf, nag o achos anwybodaeth ddïymwaredadwy, neu ddamweiniau annocheladwy?-Pa beth bynnag, gan hynny a ddeffry adfyfyriad, ac a ddwg ystyriaeth, rhaid i hynny gael effaith buddiol ar ein bucheddau. Pa beth bynnag a wna i'r deall, a serchiadau goreu 'r enaid ymdrechu, hynny wrth naturiaeth a'u gwellhâ. Heb adfyfyrio, heb ymrŷddhâu

oddi wrth gythrwfl y syniadau a'r nwydau, ni's gallwn dywallt ein Calonnau mewn gweddi ger bron Duw. Os chwennychwn ychwanegu gallu ein rheswm, rhaid i ni yn fynych ymsyrthio ger bron yr Hwn a wrendy ein gweddiau.-Ym mhoethder ac angerdd ein nwydau, oni bu yn hoff gennym ryw arganlyniad neullduol, yr hwn y buom ni ein hunain yn ammheüus, os na fuom yn sicr, am ei hudoliaeth, pan fuom ar ymostwng i'w ddangos i un uwch-raddol?-Dangos ei hudoliaeth a wnaeth yr ystyriaeth noeth, bod arall i'w farnu. Y sawl a ddeuant â'u gweddiau ger bron gorsedd-faingc y grâs, a wnant hwy, gan hynny, ddim ystyried, cyn yr erfyniont ar olygon yr Holl-alluog Dduw ddyfal--chwiljo, a ydyw eu calonnau a'u hymarweddiad yn cyd-uno â'u hymbiliau? Y neb a ymgynnefinodd a gweddio ar Dduw anfeidrol haelionus, yr hwn sy 'n hoffi gwneuthur daioni i'w greaduriaid, ni ddichon hwnnw fod yn anhaelionus, yn hunanol, ac yn gybyddlyd. Y neb sy 'n ymarfer iawn-fyfyrio a cheisio cymmorth gan y Creawdwr, yr hwn y mae ei ardderchawgrwydd a'i ddedwyddwch yn gynnwysedig mewn doethineb, cyfiawnder, a daioni, ni ddichon hwnnw yn hawdd fforfettio buddioldeb a dedwyddwch ei fywyd o achos gorwagedd rhith, a gwag-ymddangosiad. Y neb sy 'n fynych yn ymgyfeilliachu trwy weddi â Duw tra phurlân a sanctaidd, yr hwn y crewyd ef, ar ei ddelw, a'r

"

hwn a'i arfaethodd i gael anfarwoldeb gwynfydedigrwydd hyfryd gyd ag "ysprydoedd y rhai 'cyfiawn a berffeithiwyd," ni ddichon hwnnw ymlochi mewn anghymmedroldeb. Y neb sy'n arfer gosod holl-wybodaeth, sancteiddrwydd a chyfiawnder Duw, gyferbyn â'i anwybodaeth, â'i wendidau ac â'i anallu ei hun; ni ddichon hwnnu lai na theimlo ei hun yn ostyngedig ac yn ddiolchgar. Y neb a ofyn iddo ei hun, Beth yw Duw? beth ydwyf fi ? Beth yw ei odidogrwydd Ef? beth ydwyf fi hebddo Ef? a pheth ydyw ei berthynasau Ef i'r byd yma? Onid Efe yw fy Nghreawdwr i a Chreawdwr pob peth a'r sydd o'm hamgylch? Onid Efe yw fy Ngheidwad i a'n Ceidwad ni oll?-A ddichon neb, gan hynny, fyfyrio ar y fath Un ardderchog, a pheidio ei barchu? ar y fath Un hawddgar, a pheidio ei garu? A ydych chwi yn dal sulw, gyd â phleser, ar fam dirion y nyth-lwyth pluog yn taenu ei hedyn cysgodol dros ei thylwyth bychain; ac a ellwch chwi feddwl, gyd â dïystyrwch, am y modd y y mae'r Creawdwr Holl-gyffredinol yn taenu adenydd ei gariad anfeidrol, mor helaeth ag amgylcheddau'r Nefoedd, dros ei lïosog blant?

Pa beth bynnag sy'n rhoddi dedwyddwch diattreg i'n naturiaeth ni, neu sy'n foddion i'w gaffael, buddiol ydyw i hynny. Y mae gweddi yn fuddiol i hynny, trwy ddwyn hyfryd lawenydd ac ym

« הקודםהמשך »