תמונות בעמוד
PDF
ePub

ddiried yn Nuw, a pharhâus sirioldeb ac esmwythder ynghanol holl ammheüusrwydd damweiniau. Adfyfyrio bod Duw o anfeidrol allu, o ollgynnwysfawr ddoethineb, ac o annyhyspyddadwy ddaioni, yn llywodraethu 'r holl fyd; adfyfyrio bod pob achos a phob damwain yn ei ddwylaw Ef, yr hwn a wna i "bob peth gyd-weithio er daioni" i'r sawl a'i carant Ef; yr hwn a rŷdd iddynt hwy bob gwir ddaioni, ac a drŷ ymaith oddi wrthynt bob drwg gwireddol, ac a gyfarwydda eu llwybrau i'r mwyniant perffeithiaf yn y byd yma, ac i ddedwyddwch tragywyddol yn y byd a ddaw; gorchymyn ein hunain mewn gweddi feunyddiol i'r Cyfaill holl-alluog hwn, a bod yn gwbl sicr gennym, ei fod Ef yn gofalu am danom ni, yr hwn a'n tywys trwy ei gyngor, a'n hamddiffyn trwy ei Allu, ac a'n diwalla o'i drysorau ei hun, nes y dygo ni i'w deyrnas dragywyddol ;-rhaid i hynny dywallt i'n meddyliau esmwythder hyfryd a pharhâus; rhaid i hynny ddwyn ynghalon dyn ymostyngiad gorfoleddus, ynghanol holl anghenion, ammheüusrwydd, a drygau 'r bywyd hwn!-Nid ydyw ewyllys da, trysorau, gallu, ac addewid y penllywydd mwyaf ar y ddaear, mewn cymhariaeth i hyn, ond dïogelwch gwael, ïe yn y bywyd presennol. Geill tywysogion feirw, gallant fethu, gallant gyfnewid. Y pethau gwerth-fawroccaf, megis, gwir ddoethineb, rhëolaeth ar ein nwydau, a'r ymfoddlonrwydd o ddai

oni cynnyddadwy, ni feddant mo honynt i'w rhoddi. Y drygau mwyaf hefyd, euogrwydd, gwaradwydd, afiechyd, ac ofn angeu, mwy nag a allant hwy ydyw eu symmud. Ond Duw hollalluog, yr hwn yn dragarog a wrendy ein gweddiau, yr hwn y mae'r daionus yn myfyrio ar ei berffeithrwydd, yr hwn y mae 'n ymbil am hawl yn ei Addewidion mewn gweddi, a all unioni pob afrëolaeth, ac a all ein diwallu â phob daioni. Ni all ei ddoethineb Ef gamsynied yr hyn sydd oreu ini 'ac nis gellir goruwch-reoli ei allu, ac ni ddichon ei ddaioni a'i ffyddlondeb fethu.-Gan hynny, a wna hyfryd gyd-ymdeimlad cyfeillgarwch dynion, a wna ansicr gynhaliaeth o haelioni tywysogion, ofyn cydnabyddiaethau diolchgar; ac a wna lifeiriol drugareddau ac anfeidrol ymddiffyniad Duw, cywir a ffyddlon Gyfaill dynion, yr hwn sy'n caru.eu heneidiau, a'r hwn a wnaeth y fath bethau rhyfedd er iachawdwriaeth a dedwyddwch iddynt hwy, gynhyrfu ynom ni ddim meddyliau diolchgar a pharchus? Y mae pawb yn hoffi 'r cyfaill cywir-ffyddlon i'w wlâd, yr hwn sy'n byw yn unig i'w gwasanaethu, ac a fyddai farw yn foddlongar i'w hachub: ac a wnawn ni ddim perchi ac addoli Tâd, Cyfaill, ac Amddiffynnwr yr holl greadigaeth fyw, yr hwn sy'n gwilied drosom ni oll, ac yn gofalu am danom ni oll? A wnawn ni ddim perchi ac addoli ein Hiachawdwr, y Gwaredwr digymmar, yr

د

hwn, er prynu dynion llygredig ac annïolchgar, a arweiniodd yn llawen fuchedd o ofid digyffelyb, ac a ddioddefodd y farwolaeth waradwyddusaf, y felldigediccaf, a'r boenusaf i bob cnawd, dros bechodau'r holl Fyd?

Pwy sydd, nad yw yn gweled yr anghenrheidrwydd am weddi, ac nad yw yn teimlo 'r diddanwch o honi mewn myrdd o brofedigaethus anghenion y creadur truan, sef, dyn? Er mor ddïofal y geill rhai nofio i lawr ar lanw'r iechyd, cyfoeth, a hawddfyd, heb ystyried y llaw sy'n eu cynnal hwy ar y llifeiriant peryglus: er mor anniolchgar y geill eraill ymbesgi ar ddanteithion y bywyd yma, heb erioed geisio, gyd ag yspryd gostyngedig, y fendith y mae Efe yn barod i'w rhoddi etto pawb yn yr anghenoctyd diweddaf, pan y gwnelo tymhestl yr adfyd orwasgu arnynt, a dderchafant y golwg ymbilgar tu ag at Dduw, ac a gyfaddefant, mai ynddo Ef yn unig y ceir y Cymmorth a'r sydd yn gymmesur i bob gofid yn y byd hwn. Mor felus a hyfryd y pryd hynny fydd y diddanwch a geir wrth arfer ymgyfeilliachu â'r hwn a wrendy Weddi! Mor ddiddanus a chysurus fydd hynny i ymorphwysiad ac anghenusrwydd dynion! Mor hynod fydd y rhagoriaeth, mor ddïanwadal fydd y gwroldeb, a ysprydola hynny ynghanol amrywiol frwydrau 'r fuchedd ddynol!-pan fyddo'r rhai y gwnaeth eu pechod,

au a'r byd, hwy yn estroniaid oddi wrth Dduw, yn cyfaddef yn eu cythrymion chwerwon, iddynt hwy ymadael a'u hunig Gynhalydd, iddynt wrthod eu Cymmwynaswr goreu, iddynt ddïystyru eu hunig Gyfaill; ac er na feiddiant ddyfod ger ei fron Ef, etto mai ger ei fron Ef y mae'r tangnefedd i'w gael yr hwn a ddichon roddi esmwythder i'w heneidiau gofidus.-Mor fawr y pryd hynny fydd llawenydd y dyn defosiynol, yr hwn sydd yn feunyddiol yr gorchymyn ei hun i ofal Duw, yr hwn sy'n gorfoleddu yn sicrwydd ei amddyffyniad! Cyfyngder, ammheüusrwydd, trueni y rhai sydd heb obaith yn Nuw, a'i ysprydola ef â mwy o hyder ar ei ddiogelwch ei hun dan amddiffyniad Duw; fel y neb sy'n ddiogel ar lan y môr, yr hwn a ddichon yn ddïofn edrych ar y dymhestl yn codi, ac yn ddigyffro wrando ar ei rhuadau pell: a phan y bo eraill yn cael eu lluchio ac mewn perygl i'r llongau dorri arnynt, hwnnw yn fwy ymsyniol a deimla ei ddedwyddwch ei hun, yn ei fod yr ddïogel oddi wrth eu dioddefiadau a'u peryglon hwy.

Gan hynny, os ydyw cyd-gyfeillach gwastadol â Duw trwy weddi yn rhoddi'r diddanwch mwyaf mewn adfyd; ac os ydyw ymddieithro oddi wrtho Ef yn drueni gwireddol mewn unrhyw sefyllfa; gyd â pha arswyd, dïolch, a defosiwn, y dylai pob cnawd ddyfod ger bron yr hwn a wrendy ein

gweddiau! Oni ddylem ni roddi pob parch i'r Bod yma, y doethaf, y galluoccaf, a'r goreu o'r bodau, a'i wir-garu â'n holl galonnau! Llawn yw'r holl naturiaeth o hono Ef. Y mae Efe yn gorchuddio'r meusydd â glaswellt, a'r bryniau â â diadellau. Y mae ei ddaioni yn cynhesu yn haul y boreu, ac yn adlonni yn awel y prydnawn; y mae 'n gwenu ym mlodau 'r gwanwyn, ac yn ymddisgleirio yng nghyd-sêr y Nefoedd. Os 'ydyw 'r mynydd yn dyrchafu ei grib uchel, neu'r dyfroedd mawrion yn ymdonni mewn ehangder ofnadwy ger ein bron, holl-alluogrwydd yr hwn a wrendy ein gweddiau ydyw hynny, yr hwn y meddyliwn am dano, a'r hwn y gwahoddir pob cnawd i ddyfod tan ei ymddiffyniad Ef. Nid ydyw naturiaeth yn ei holl ddirfawr amrywiaethau ond arddangosiad amrywiedig o Dduw.-Onid oes gennym ni, gan hynny, yn y fath ddoethineb, ddirfawr achos i ymostwng i'r gallu sydd, ar yr un amser, mor arswydus ac mor haelionus yn gweithio; i dderbyn gyd â'r diolchgarwch mwyaf y fath hael-dywalltiad o ddaioni; ac ymddarostwng i'r Rhagluniaeth sydd mor wiliadwrus, mor ddiwyd, a dyfal, yn dyrchafu ein dedwyddwch? A ydyw 'r Creawdwr mor ogoneddus yn amlwg ymhob golygfa o'i waith, ac a gaiff Efe fyned heibio i ni heb gael ei berchi a'i addoli ? A ydym ni felly yn ei deimlo Ef, yn llonni ein cyrph, yn bywiogi ein meddyliau, ac yn agor o'n mewn fil

« הקודםהמשך »